Ymchwiliad: Ariannu addysg cerddoriaeth a gwella mynediad ati

Ymweliad y Pwyllgor ag Ysgol Lewis Pengam

 

Aelodau'r Cynulliad a oedd yn bresennol:

Bethan Jenkins (Cadeirydd)

Dawn Bowden

Dai Lloyd

Neil Hamilton

Swyddogion yn bresennol:

Siân Hughes, Cynghorydd Ymchwil

Adam Vaughan, Ail Glerc

Lowri Harries, Dirprwy Glerc

Rhea James, Cymorth Tîm

 

Yn dilyn cyfarfod y Pwyllgor ar 18 Mai 2017, aeth yr Aelodau ar ymweliad ag Ysgol Lewis Pengam fel rhan o'u hymchwiliad. Cyfarfu'r Pwyllgor â'r Pennaeth, Chris Parry, a'r Pennaeth Cerddoriaeth, Beth Jenkins.

Ymwelodd yr Aelodau â'r Adran Gerddoriaeth, gan weld cyfres o berfformiadau gan ddisgyblion yr ysgol yn chwarae ac yn recordio amrywiaeth o wahanol offerynnau.

Ar ôl y perfformiadau/trafodaethau hyn, rhoddodd y Pennaeth Cerddoriaeth gyflwyniad i'r Pwyllgor. Dywedodd Beth wrth yr Aelodau am yr amrywiaeth o dechnegau sy'n cael eu haddysgu yn yr ysgol a rhoddodd rai enghreifftiau o'r disgyblion sydd wedi mynd ymlaen i gael gyrfaoedd llwyddiannus iawn oherwydd y sgiliau a ddysgwyd yn Ysgol Lewis Pengam.

Mae copi o'r cyflwyniad wedi'i atodi i'r Aelodau a oedd yn methu bod yn bresennol. Tynnodd cyflwyniad Beth Jenkins sylw at rai o'r materion allweddol y mae addysg cerddoriaeth yn eu hwynebu, a oedd o ddiddordeb mawr i'r Aelodau.

Roedd rhai o'r pynciau a drafodwyd yn y cyflwyniad yn cynnwys:

- Young Vision, casgliad o fyfyrwyr chweched dosbarth a ddaeth ynghyd i gynhyrchu EP er mwyn codi arian ar gyfer y Teenage Cancer Trust;

- Ysgoloriaeth Amy Wadge a ganiataodd i fyfyrwyr yr ysgol ddysgu sgiliau ysgrifennu caneuon ac a hwyluswyd drwy'r offer a ddarparwyd i'r ysgol gan wasanaeth cerdd awdurdod lleol Celfyddydau Caerffili;

- Mae Ysgol Lewis Pengam wedi elwa'n fawr ar Brosiect Forté (nad yw'n perthyn i genre penodol). Sefydlwyd y prosiect hwn gan y PRS Foundation (corff y DU gyfan) a'i ariannu'n rhannol gan Gyngor Celfyddydau Cymru:

"Yn dod i chi gan y bobl y tu ôl i'r Rhwydwaith Hyrwyddwyr Ifanc, mewn cydweithrediad â Cherdd Ieuenctid SONIG, ClymuCelf a Chyngor Celfyddydau Cymru, mae Prosiect Forté yn anelu at gymryd deg o artistiaid sy'n dod i'r amlwg o ranbarthau Rhondda Cynon Taf, Caerffili, Merthyr Tudful, Pen-y-bont ar Ogwr a Bro Morgannwg, neu ClymuCelf, fel yr elwir gyda'i gilydd."[1]

- Mae'r ysgol yn rhedeg gweithdai ysgrifennu caneuon i'r disgyblion mwy galluog a thalentog ym mlynyddoedd 9, 10 a 11;

- Mae'r ysgol wedi defnyddio menter y BBC, Ten Pieces, sy'n anelu at ennyn diddordeb cenhedlaeth newydd o blant mewn cerddoriaeth glasurol a'u hysbrydoli i ddatblygu eu hymatebion creadigol eu hunain i gerddoriaeth trwy amrywiaeth o ffurfiau celf[2], fel menter ar y cyd rhyngddi ac un o'r ysgolion cynradd sy'n ei bwydo, Ysgol Gynradd Ystrad Mynach.

"Roedd y canlyniadau'n rhagorol. Fe sylwodd y BBC arnyn nhw ac maen nhw bellach yn ymddangos ar hafan Ten Pieces y BBC."[3]

- Mae artistiaid o Ysgol Lewis Pengam wedi perfformio, ac wedi cael llawer o lwyddiant, mewn cystadlaethau fel:

Cerddor Ifanc Cyfoes Caerffili (cystadleuaeth flynyddol a gynhelir yn Stiwdio Perfformio Stiwdio Gwasanaeth Cerddoriaeth Caerffili ym Mhontllanfraith), a

Gŵyl Caerfaddon a Chanol Gwlad yr Haf (mae'r Ŵyl yn elusen gofrestredig ac yn cael ei weinyddu'n llwyr gan wirfoddolwyr),

Gŵyl Music for Youth Festival - "mae Music for Youth yn elusen gerddoriaeth genedlaethol i bobl ifanc ieuenctid sy'n gweithio i roi cyfleoedd am ddim i bobl ifanc rhwng 21 oed ac iau ar draws y DU gael perfformio a symud ymlaen mewn ffyrdd sy'n newid eu bywydau, waeth beth yw eu cefndir neu eu harddull cerddorol."[4]

- Gweledigaethau'r ysgol ar gyfer y dyfodol, sy'n cynnwys:

"Academi roc a phop i ddisgyblion 11+ sy'n cyfateb i'r hyfforddiant a gynigir yn CBCDC i gerddorion clasurol;

Ensembles cenedlaethol/cyfleoedd i ysgrifennu caneuon roc a phop;

Cystadlaethau i gyfateb i gystadlaethau clasurol;

Y gallu i ddisgyblion olrhain gyrfaoedd a swyddi yn y diwydiannau roc a phop - Creative Scotland."[5]

- Dyma rai lluniau o'r ymweliad.

         

         



[1] http://www.forteproject.co.uk/about/

[2] http://www.bbc.co.uk/programmes/p01vs08w

[3] Atodiad

[4] http://www.mfy.org.uk/about/our-work/

[5] Atodiad